Y Pwyllgor Menter a Busnes

 

Dyddiad        18 Gorffennaf 2012

 

Lleoliad         Y Senedd

 

Teitl                Sesiwn graffu ariannol a gynhelir yn ystod y flwyddyn

 

 

Pwrpas

 

1.            Darparu papur tystiolaeth ar gyfer y Pwyllgor Menter a Busnes, sy’n rhoi:

 

a)    sylwebaeth ar y cynnydd a wnaed yn erbyn ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu sy’n berthnasol i feysydd portffolio’r Pwyllgor (addysg uwch; sgiliau a dysgu gydol oes; pobl ifanc nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant).

 

b)    y diweddaraf am bryderon rhif 2, 3 a 4, a nodwyd yn llythyr y Cadeirydd, dyddiedig 26 Hydref 2011, at y Gweinidog Addysg a Sgiliau ar ôl iddo ymddangos gerbron y Pwyllgor ar 12 Hydref 2011.

 

c)    crynodeb o gyllideb atodol gyntaf 2012-13.

 

 

Yr Amseru

 

2.            Sesiwn yn ystod y flwyddyn yw’r sesiwn graffu ariannol hon ar gyllideb derfynol 2012-13.

 

Y cynnydd yn erbyn yr ymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu

 

3.            Mae’r Rhaglen Lywodraethu’n nodi’r hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud i wella bywydau pobl Cymru, a sut y byddwn yn mesur cynnydd. Mae’r adroddiad cynnydd cyntaf, a gyhoeddwyd ym mis Mai 2012, yn disgrifio ein perfformiad fesul cam gweithredu.

 

4.            Mae’r adroddiad yn cynnwys holl fanylion diweddaraf y cynnydd a wnaed yn erbyn yr ymrwymiadau a nodir yn ein Rhaglen. Mae’n cynnwys yr holl ddata sydd ar gael ar gyfer y dangosyddion sy’n mesur i ba raddau y mae ein rhaglen yn cael ei chyflawni a hefyd ar gyfer y dangosyddion sy’n rhoi gwybodaeth am y prif ganlyniadau. Data blynyddol yw llawer ohonynt, ac felly, o reidrwydd, nid yw manylion y cynnydd a wneir gan y Llywodraeth yn gwbl gyfredol.

 

5.            Mae’r Adran Addysg a Sgiliau yn cyfrannu at nifer o feysydd yn y Rhaglen Lywodraethu, ond y prif feysydd yw Twf a Swyddi Cynaliadwy, Addysg, Tlodi, ynghyd â Diwylliant a Threftadaeth Cymru.

 

6.            Ers 1999, mae canran yr oedolion o oedran gweithio sy’n meddu ar gymwysterau hyd at lefel 2 ac yn uwch, a hyd at lefel 3 ac yn uwch, wedi cynyddu’n gynt yng Nghymru nag yn unrhyw wlad arall yn y DU. Ond, gan fod Cymru’n adeiladu ar ganran isel i ddechrau, mae’r ganran sy’n meddu ar gymwysterau hyd at y ddwy lefel hyn yn parhau’n is nag yn Lloegr a’r Alban. Mae canran y bobl ifanc 16-18 oed ac 19-24 oed, nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth, hefyd yn parhau’n her wirioneddol.

 

7.            Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cafodd Twf Swyddi Cymru ei threialu’n llwyddiannus, gyda’r rhaglen yn cael ei lansio ym mis Ebrill 2012. Cafodd Sgiliau Twf Cymru ei ehangu ym mis Ionawr 2012, sef rhaglen sy’n helpu busnesau sy’n tyfu mewn sectorau allweddol o flaenoriaeth i wella sgiliau eu gweithlu, gan eu helpu hefyd i greu cyfleoedd gwaith newydd. Yn ogystal, ehangwyd y Rhaglen Recriwtiaid Ifanc, a chafodd y targed gwreiddiol o 1,000 ei ddyblu bron a bod, wrth i’r rhaglen gael 1,995 o geisiadau am gymorth uniongyrchol gan gyflogwyr. Cyflwynwyd y Rhaglen Hyfforddiaethau a’r Rhaglen Camau at Waith, sy’n rhaglenni ar gyfer pobl ifanc ac oedolion, ym mis Awst 2011; a thrwy lansio Sgiliau Hanfodol yn y Gweithle ym mis Chwefror 2012, cafodd y cymorth i oedolion i ddysgu sgiliau sylfaenol ei ailfodelu. Rydym yn defnyddio’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Ymgysylltu a Chyflogaeth 2011-15 i ennyn diddordeb pobl ifanc mewn dysgu ac mae’r Adolygiad o Gymwysterau yn mynd rhagddo gyda’r weledigaeth o gynnig cymwysterau sy’n diwallu anghenion ein pobl ifanc ac economi Cymru.

 

8.            O ran Addysg Bellach, mae pedwar sefydliad wedi eu cyfuno gan greu dau sefydliad mwy o faint, ac mae rhagor o gynlluniau cyfuno ar y gweill. Cynyddu y mae’r cyfraddau ar gyfer myfyrwyr ôl-16 sy’n aros ymlaen, a bydd y cynnydd yn y niferoedd sy’n llwyddo mewn Addysg Bellach yn helpu i wella cyraeddiadau myfyrwyr 19 oed.

 

9.            O ran Addysg Uwch, nid oes yr un myfyriwr sy’n wynebu cynnydd mewn ffïoedd dysgu, ac mae gan holl brifysgolion Cymru gynlluniau ar gyfer sicrhau bod addysg ar gael i fwy o bobl a bod profiad myfyrwyr yn cael ei wella. Mae’r gwaith o ddiwygio’r sector Addysg Uwch yn mynd rhagddo.

 

10.         Dywedodd y Pwyllgor y byddai ganddynt ddiddordeb arbennig yn yr ymrwymiadau hynny a nodwyd yn flaenoriaeth adeg Cyllideb Ddrafft y Llywodraeth 2012-2013. Mae blaenoriaethau’r Prif  Grŵp Gwariant Addysg a Sgiliau, sy’n berthnasol i’r Pwyllgor, yn cael eu nodi isod. Nodir yr wybodaeth ddiweddaraf yn erbyn holl ymrwymiadau’r Rhaglen Lywodraethu sy’n berthnasol i bortffolio’r Pwyllgor yn Atodiad 1.

 

Twf Swyddi Cymru

 

11.         Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai ‘Twf Swyddi Cymru’ yn cael ei sefydlu ym mis Hydref 2011, a chreodd y peilot gwreiddiol 110 o swyddi. Cafodd rhaglen lawn Twf Swyddi Cymru ei lansio ar 3 Ebrill 2012, a’r nod yw creu 4,000 o gyfleoedd gwaith bob blwyddyn ar gyfer pobl ifanc ddi-waith 16-24 oed ledled Cymru, gan roi profiad gwaith iddynt am gyfnod o 6 mis.

 

ReAct / Adapt

 

12.         Profwyd bod pecyn cymorth ReAct yn gwella’r tebygolrwydd o gryn dipyn y bydd gweithwyr sydd wedi’u diswyddo yn cael swydd arall yn gyflym. Mae arolwg o hynt y rheini sy’n gadael ReAct yn cadarnhau hynny, ac yn dangos bod tua 76% o’r bobl sydd wedi manteisio ar y rhaglen wedi dod o hyd i swydd newydd erbyn iddynt ymateb i’r arolwg.

 

13.         Mae gweithgarwch Adapt, ddechrau’r flwyddyn, yn parhau’n isel er gwaethaf cynnal nifer o ddigwyddiadau codi ymwybyddiaeth. Hyd yn hyn, mae llawer o’r bobl sydd wedi gadael y sector cyhoeddus wedi gwneud hynny o’u gwirfodd ac nid oes angen y pecyn cymorth arnynt.

 

           Llwybrau at Brentisiaethau

  

14.         Yn ystod 2011-2012, comisiynodd Llywodraeth Cymru 2,000 o leoedd ar y rhaglen Llwybrau at Brentisiaethau (37% ohonynt yn y De, 33% yn y Gogledd a 30% yn y De-orllewin a’r Canolbarth). Bydd y ffigurau ar gyfer nifer y dysgwyr a gwblhaodd  y rhaglen hon, gan ymuno wedyn â rhaglen brentisiaeth lawn, yn cael eu cyhoeddi yn nes ymlaen yn y flwyddyn pan ddaw'r data perthnasol i law.

 

          Diwygio Llywodraethu a Chyllido Ôl-16

 

15.         Roedd y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn derbyn 40 o’r 41 o argymhellion a wnaed yn adroddiad Humphreys ar gyfer diwygio Llywodraethu Addysg Bellach yng Nghymru. Roedd yr argymhellion yn yr adolygiad hwn yn cynnwys sefydlu Cyrff Aelodaeth ar gyfer pob coleg, a fyddai’n cynnwys amrywiaeth o randdeiliaid o wahanol rannau o’r gymuned i herio’r cyrff llywodraethu. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio mewn partneriaeth â CholegauCymru, y corff sy’n cynrychioli’r sector, er mwyn hybu’r gwaith o ddiwygio llywodraethu.

 

16.         Mae Llywodraeth Cymru wedi trefnu dyraniadau cyllid dangosol tair blynedd ar gyfer 2011/12 i 2013/14. Mae amlder dyraniadau cyllid yn y dyfodol wedi’i gynnwys yn yr Adolygiad Cynllunio a Chyllido Ôl-16 a fydd yn cyflwyno adroddiad interim i Weinidog Addysg a Sgiliau Llywodraeth Cymru ym mis Tachwedd 2012 i helpu i lywio’r trefniadau cyllido yn y dyfodol. 

 

           Diwygio llywodraethu a strwythur Addysg Uwch

 

17.         Cyflwynir dull gweithredu gam wrth gam i wneud diwygiadau i Addysg Uwch, gan gynnal ymgynghoriad cychwynnol a fydd yn canolbwyntio ar y newidiadau i ddeddfwriaeth y mae eu hangen i sicrhau bod dulliau priodol yn eu lle i reoleiddio darpariaeth Addysg Uwch yng Nghymru o dan drefniadau cyllido newydd. Bydd y newidiadau i ddulliau llywodraethu yn cael eu hailystyried yn nes ymlaen, ac fe’u datblygir ar ôl cynnal ymgynghoriad ar wahân yn 2013/14.

 

18.         Ym mis Tachwedd 2011, cyhoeddwyd ymateb y Gweinidog Addysg a Sgiliau i’r cynigion ad-drefnu a wnaed gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC), ac a nodwyd yn ei adroddiad ar strwythur prifysgolion Cymru yn y dyfodol. Crëwyd panel gan Lywodraeth Cymru i adolygu patrwm darpariaeth Addysg Uwch yn y Gogledd-ddwyrain, gyda’r nod o roi adroddiad, sy’n cynnwys argymhellion, i’r Gweinidog erbyn mis Ebrill 2013. Mae’r Gweinidog wedi cynnal trafodaethau gyda’r sefydliadau hynny a fydd yn teimlo effaith y cynigion ad-drefnu a wneir gan CCAUC ar gyfer y De-ddwyrain. Os ydym am gyflawni’r targed hwn yn llawn, rhaid gweithredu’r agenda ad-drefnu dros y ddwy flynedd nesaf.

 

          Cynnal lefelau’r cymorth ariannol a roddir i gartrefi incwm isel

 

19.         Mae’r holl ymgeiswyr cymwys am Grantiau Dysgu’r Cynulliad wedi cael y cymorth priodol yn ystod y flwyddyn.

 

20.         Cynhaliwyd lwfansau cynhaliaeth addysg Llywodraeth Cymru drwy gydol 2011-12.

 

 

   

Y diweddaraf am ffïoedd Addysg Uwch

 

21.         Mae’r Polisi Cyllido Myfyrwyr yn seiliedig ar fodel ariannol soffistigedig sy’n ystyried y cyllid presennol sydd wedi’i neilltuo ar gyfer Addysg Uwch yng Nghymru, yn ogystal â ffynonellau incwm eraill sefydliadau megis ffïoedd dysgu. Mae’r model yn seiliedig ar amrediad o lefelau ffïoedd y mae pob un ohonynt yn fforddiadwy. Mae rhai pethau’n parhau yn ansicr, fel y newidiadau posibl yn y llif trawsffiniol, ond mae swyddogion yn dal i fonitro’r sefyllfa’n ofalus. Mae’r cynlluniau wrth gefn, sydd yn eu lle, yn briodol ac yn ddigonol.

 

22.         Ar hyn o bryd, nid yw’n bosibl rhoi gwybodaeth fwy diweddar am y sefyllfa. Nid yw’r data a ddarperir gan UCAS ond yn nodi nifer y ceisiadau i brifysgolion, nid yw’n dangos nifer y myfyrwyr sy’n cofrestru mewn gwirionedd ym mhob sefydliad. Bydd gwybodaeth lawer manylach am y llif trawsffiniol, lefelau ffïoedd ac ymddygiad myfyrwyr ar gael o fis Medi, pan fydd y flwyddyn academaidd newydd yn dechrau. Bryd hynny, bydd yn bosibl cael data am y myfyrwyr sydd wedi cofrestru mewn gwirionedd. Ar ôl i’r wybodaeth hon ddod i law, bydd swyddogion yn cynnal adolygiad o dybiaethau ac amcangyfrifon ar sail y model ariannol a ddefnyddir ar gyfer y sector Addysg Uwch, a’i effaith ar gyllidebau Llywodraeth Cymru.

 

23.         Mae Llywodraeth Cymru o’r farn bod trefniadau astudio rhan-amser yn cynnig hyblygrwydd i fyfyrwyr na fyddent fel arall yn gallu manteisio ar y cyfle i gael addysg uwch. Mae llwyddiant ein bwriad i sicrhau bod addysg uwch ar gael yn hawdd i fwy o bobl a bod ganddynt fwy o gyfleoedd, yn dibynnu i raddau helaeth ar y trefniadau rhan-amser sy’n cael eu darparu. Rydym felly’n awyddus i greu diddordeb mewn addysg ran-amser fel y trefniadau astudio a ffefrir.

 

24.         Mewn llythyr dyddiedig 31 Mai 2012, cadarnhawyd wrth Gadeirydd CCAUC bod addysg uwch ran-amser yng Nghymru yn parhau i fod yn un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, a’n bod yn disgwyl i CCAUC ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer darpariaeth ran-amser yng Nghymru.

 

25.         Gofynnwyd yn benodol i’r Cyngor ymchwilio i ddulliau gweithredu arloesol mewn perthynas â’r materion canlynol:

 

·         sut i ennyn diddordeb mewn astudio’n rhan-amser o ran cyrsiau ôl-radd, cyrsiau a arweinir gan gyflogwyr, a chyrsiau byr;

·         sut i hyrwyddo cyrsiau rhan-amser er mwyn manteisio ar y cyfleoedd sy’n codi yn sgil cyflwyno pecyn cymorth newydd ar gyfer addysg ran-amser;

·         dod o hyd i fodelau eraill ar gyfer darparu addysg ran-amser;

·         sicrhau eglurder o ran cynlluniau cyllido CCAUC o ran addysg ran-amser yn y dyfodol, gan sicrhau hefyd fod rhanddeiliaid yn gwybod am unrhyw drefniadau;

·         hyrwyddo’r arferion gorau.

 

26.         Bydd y darpariaethau cymorth i fyfyrwyr, sydd wedi’u cyhoeddi, yn golygu y bydd rhywfaint o’r ddarpariaeth ran-amser y tu allan i gwmpas y system cymorth statudol. Crëwyd gweithgor i fwrw ymlaen â’r gwaith o weithredu’r newidiadau i’r system cymorth i fyfyrwyr rhan-amser ac i ystyried unrhyw ddatblygiadau pellach a allai fod yn angenrheidiol i gynnal sector Addysg Uwch rhan-amser cadarn yn unol â’r strategaeth Er Mwyn Ein Dyfodol. Yn benodol, mae’r grŵp yn ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad ar y newidiadau i’r cymorth a gynigir i fyfyrwyr rhan-amser, a hefyd unrhyw ddulliau eraill y gellid eu defnyddio i gyllido cyrsiau Addysg Uwch rhan-amser sy’n cael eu hastudio ar ddwyster o lai na 25%.

 

27.         Ni chynhaliwyd unrhyw asesiadau pellach o’r goblygiadau ariannol i Lywodraeth Cymru a fyddai’n deillio o’r ffaith bod myfyrwyr o rannau eraill o Ewrop yn astudio yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o’r DU. Rhoddir gwybod i’r Pwyllgor am unrhyw asesiadau yn y dyfodol.

 

 

Cyllideb Atodol 2012-13

 

28.         Ar 6 Rhagfyr 2011, cymeradwyodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru Gyllideb Derfynol 2012-13 Llywodraeth Cymru. Mae Deddf Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth Cymru adlewyrchu’r newidiadau a wnaed ers y gyllideb gymeradwy ddiwethaf, a hynny trwy baratoi cyllideb atodol.

 

29.         Rhagwelir y bydd dwy gyllideb atodol yn cael eu cyhoeddi yn 2012-13.  Cafodd y gyntaf ei gosod ar 26 Mehefin a disgwylir i’r ail gael ei chyhoeddi rywbryd tua diwedd y flwyddyn ariannol.

 

30.         Mae’r gyllideb atodol gyntaf yn adlewyrchu’n bennaf newidiadau i gyllidebau yn unol â datganiadau blaenorol a wnaed gan Lywodraeth Cymru. Ar y cyfan, mae’n dechnegol ei natur, ond mae hefyd yn cynnwys nifer o ddyraniadau o’r cronfeydd wrth gefn. Mae’r newidiadau ar gyfer y Prif Grŵp Gwariant Addysg a Sgiliau yn cael eu dangos yn Nhabl 1 isod.


 

Tabl 1: Prif  Grŵp Gwariant Addysg a Sgiliau

DEL

£000au

£000au

Adnodd 2012-13

Cyfalaf 2012-13

Cyllideb[1]

Newidiadau

Y Gyllideb Ddiwygiedig

Cyllideb1

Newidiadau

Y Gyllideb Ddiwygiedig

Safonau Addysg a Hyfforddiant

1,165,476

1,485

1,166,961

161,243

17,050

178,293

Gweithlu Medrus

89,669

-20

89,649

0

0

0

Lles Economaidd a Chymdeithasol a Lleihau Anghydraddoldeb

390,762

-10

390,752

0

0

0

Yr Iaith Gymraeg

26,355

-1,379

24,976

100

-100

0

Cymorth Cyflawni

3,148

1,043

4,191

0

0

0

Cyfanswm DEL

1,675,410

1,119

1,676,529

161,343

16,950

178,293

AME

 

 

 

 

 

 

Lles Economaidd a Chymdeithasol a Lleihau Anghydraddoldeb

-99,893

10,860

-89,033

250,418

16,924

267,342

Cyfanswm y gwariant a reolir (TME)

1,575,517

11,979

1,587,496

411,761

33,874

445,635

 

31.         Yn gyffredinol, bu cynnydd net o £18,069k yn DEL Addysg a Sgiliau, a oedd yn cynnwys cynnydd yn yr adnodd o £1,119k (0.07%) a chynnydd mewn cyfalaf o £16,950k (10.5%).

 

32.         Mae cyllideb yr AME wedi cynyddu £27,784k, sy’n golygu cynnydd mewn cyfalaf o £16,924k a chynnydd yn yr adnodd o £10,860k, i adlewyrchu’r rhagamcanion diweddaraf o ran benthyciadau i fyfyrwyr.

 

33.         Mae cyllideb atodol 2012-13 ar gyfer y camau gweithredu yn cael ei nodi yn Atodiad 2, a hefyd rhoddir dadansoddiad cyllidebol manwl o’r Llinell Wariant yn y Gyllideb yn Atodiad 3.

 

34.         Rhoddir crynodeb isod o’r newidiadau yng nghyllideb atodol gyntaf 2012-13 ar lefel y camau gweithredu.


 

Safonau Addysg a Hyfforddiant – Codi safonau’r ddarpariaeth addysg a hyfforddiant a’i seilwaith ledled Cymru, fel y gall pawb wireddu ei botensial

 

Newidiadau i’r cyllid o fewn Portffolio'r Pwyllgor Menter a Busnes

 

Camau Gweithredu ar Addysg Uwch – Prif  Grŵp Gwariant i Brif  Grŵp Gwariant

 

35.         Cafodd £2,051k ei drosglwyddo o’r Camau Gweithredu ar Gefnogi Addysg a Hyfforddiant ar gyfer Gweithlu’r GIG ym Mhrif Grŵp Gwariant Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, er mwyn talu i Brifysgol Caerdydd gynnal hyfforddiant meddygol a deintyddol, gan fod y myfyrwyr wedi trosglwyddo i raglen mynediad i fyfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe, sy’n cael ei chyllido trwy CCAUC.

 

Camau Gweithredu ar Gymwysterau / Camau Gweithredu ar Addysg Ôl-16 – o fewn y Prif Grŵp Gwariant

 

36.         Cafodd £4,700k ei drosglwyddo o’r Camau Gweithredu ar Gymwysterau i’r Camau Gweithredu ar Addysg Ôl-16, i ddarparu dysgu seiliedig ar waith o dan Fagloriaeth Cymru, sef trosglwyddiad gweinyddol a fydd yn cael ei ymgorffori yn y Camau Gweithredu ar Addysg Ôl-16 o 2013-14 ymlaen.

 

Newidiadau i gyfalaf o fewn Portffolio’r Pwyllgor Menter a Busnes

Camau Gweithredu ar yr Ystâd a’r Ddarpariaeth TG

37.         Mae’r adran wedi cael £8,000k o’r cronfeydd wrth gefn fel rhan o’r pecyn buddsoddi cyfalaf i hybu twf a swyddi a gyhoeddwyd ym mis Mai. Mae’n cynnwys £5,000k ar gyfer cyflymu prosiectau pontio Ysgolion ar gyfer yr 21ain ganrif, a £3,000k ar gyfer Campws Ôl-16 Canol Dinas Caerdydd Coleg Caerdydd a’r Fro.

 

Newidiadau i adnoddau o fewn Portffolios Pwyllgorau eraill

Camau Gweithredu ar y Grant Amddifadedd Disgyblion – o’r cronfeydd wrth gefn

 

38.         Cafodd £393k ei drosglwyddo o’r cronfeydd wrth gefn i’r Camau Gweithredu ar y Grant Amddifadedd Disgyblion er mwyn cynnwys plant cymwys mewn ysgolion arbennig o dan y trefniadau ar gyfer y Grant Amddifadedd Disgyblion. Mae hynny’n ychwanegol at yr £20m a drosglwyddwyd yng nghyllideb derfynol 2012-13.

 

Camau Gweithredu ar y Cwricwlwm – o fewn y Prif Grŵp Gwariant

 

39.         £693k at y Camau Gweithredu ar Gymorth Cyflawni ar gyfer y Rhaglen Addysg Ryngwladol sy’n gysylltiedig â CILT, y Ganolfan Wybodaeth ac Ymchwil ar Ddysgu Ieithoedd.

 

Newidiadau i gyfalaf o fewn Portffolios Pwyllgorau eraill

40.         Mae’r Adran wedi gwneud cais llwyddiannus am £8,950k o Gyfalaf a Gedwir yn Ganolog o’r cronfeydd wrth gefn. Mae’n cynnwys £1,950k ar gyfer prosiect Porth y Cymoedd a fydd yn sefydlu ysgol newydd yn Nhon-du ac yn ad-drefnu’r ddarpariaeth addysg uwchradd yn yr ardal, a hefyd £7,000k ar gyfer ad-drefnu’r ystâd ysgolion uwchradd yn Sir Gaerfyrddin.

 

Gweithlu Medrus – Sicrhau bod gan y gweithlu’r sgiliau priodol, a bod cyfleoedd o ansawdd uchel ar gael i’r holl ddysgwyr

 

41.         Ni fu unrhyw drosglwyddiadau sylweddol i faes y Rhaglen Wariant hon nac ohoni.

 

Lles Economaidd a Chymdeithasol a Lleihau Anghydraddoldeb – Helpu unigolion, teuluoedd, cymunedau a busnesau er mwyn gwella lles economaidd a chymdeithasol a lleihau anghydraddoldeb trwy addysg a hyfforddiant

 

Newidiadau i AME o fewn Portffolio’r Pwyllgor Menter a Sgiliau

Camau Gweithredu ar Gyfalaf a Refeniw Cymorth i Ddysgwyr Ôl-16

42.         Mae’r gyllideb AME (Gwariant a Reolir yn Flynyddol) wedi cynyddu £27,784k, sef cynnydd mewn cyfalaf o £16,924k a chynnydd mewn adnodd o £10,860k, er mwyn adlewyrchu’r rhagamcanion diweddaraf mewn perthynas âbenthyciadau i fyfyrwyr. Mae’r gyllideb hon yn cael ei harwain gan y galw ac mae’n sensitif o ran cyfraddau llog a ffactorau macro-economaidd eraill.

 

Yr Iaith Gymraeg - Gweld yr iaith Gymraeg yn ffynnu yng Nghymru

 

Newidiadau i adnoddau o fewn Portffolios Pwyllgorau eraill

Camau Gweithredu ar yr Iaith Gymraeg (Bwrdd yr Iaith Gymraeg gynt) – Prif  Grŵp Gwariant i Brif Grŵp Gwariant

 

43.         Cafodd £1,325k ei drosglwyddo i Brif Grŵp Gwariant y Gwasanaethau Canolog a Gweinyddu er mwyn talu cyflogau a chostau cysylltiedig  y staff a drosglwyddodd i Lywodraeth Cymru ar 1 Ebrill 2012, ar ôl i Fwrdd yr Iaith Gymraeg ddod i ben.

 

Camau Gweithredu ar y Gymraeg mewn Addysg / Camau Gweithredu ar yr Iaith Gymraeg – o fewn y Prif Grŵp Gwariant

 

44.         Bellach, Uned y Gymraeg mewn Addysg sy’n rheoli grantiau’r Mudiad Meithrin, Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd ac Athrawon Bro, a chafodd £4,035k ei drosglwyddo o’r Camau Gweithredu ar yr Iaith Gymraeg.

 

Cymorth Cyflawni – Bod yn adran sy’n perfformio i safon uchel ac yn gyflogwr o ddewis.

 

Newidiadau i adnoddau o fewn Portffolio’r Pwyllgor Menter a Busnes

Camau Gweithredu ar Gymorth Cyflawni – o fewn y Prif  Grŵp Gwariant

45.         Cyfanswm y trosglwyddiad i mewn yw £1,043k o wahanol Gamau Gweithredu ar ôl i’n holl waith rhyngwladol gael ei gyfuno’n un Rhaglen Addysg Ryngwladol. Y trosglwyddiad mwyaf yw £693k o’r Camau Gweithredu ar y Cwricwlwm sy’n gysylltiedig â CILT, y Ganolfan Wybodaeth ac Ymchwil ar Ddysgu Ieithoedd.

 

Cyllideb 2013-14

 

46.         Cyhoeddir Cyllideb Ddrafft 2013-14 ym mis Hydref, a Chyllideb Derfynol 2013-14 ym mis Tachwedd. Ar hyn o bryd, rydym wrthi’n paratoi ar gyfer y gyllideb hon trwy adolygu ein hymrwymiadau, a hefyd ailflaenoriaethu’r cyllid, lle bo hynny’n angenrheidiol, er mwyn sicrhau bod cynlluniau gwario’r Adran yn parhau i fod yn unol â’r ymgyrch i gyflawni’r Rhaglen Lywodraethu.

 

 

Crynodeb

47.         Cyflwynir sylwebaeth ar ymrwymiadau Addysg a Sgiliau’r Rhaglen Lywodraethu, y diweddaraf am y pryderon a godwyd ynghylch ffïoedd dysgu Addysg Uwch, a Chyllideb Atodol gyntaf Addysg a Sgiliau 2012-13 i’r Pwyllgor, iddo eu hystyried.

 



[1] Ffigurau’r Cynnig Cyllidebol Terfynol, fel y’i cymeradwywyd ym mis Rhagfyr 2011.